Mae’r modiwlau hyn wedi’u dylunio i helpu’r gweithlu gofal iechyd (clinigol ac anghlinigol) i fagu hyder er mwyn chwilio am lenyddiaeth a gyhoeddwyd ar gyfer erthyglau a thystiolaeth sy’n berthnasol i’w gwaith, astudiaethau ac ymchwil. Mae’r modiwlau hyn yn fyr (nid yw’r un ohonynt yn cymryd mwy na 20 munud i’w gwblhau) a gellir cyfeirio atynt o bryd i’w gilydd, neu eu cwblhau i ennill tystysgrif.
Mae e-Ddysgu am Ofal Iechyd yn Rhaglen Health Education England mewn partneriaeth â’r GIG a Chyrff Proffesiynol. Gall staff GIG Cymru gael mynediad i’r adnoddau hyn bellach trwy ddefnyddio’u cyfrifon OpenAthens.