Mae Chwilio am Lenyddiaeth yn sgìl sy'n gwella gydag ymarfer. Beth bynnag yw lefel eich hyder, mae gennym ni gymorth ac arweiniad ar gael. Cysylltwch â'ch Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth eich hun i gael rhagor o gymorth a chefnogaeth, neu ewch i'n tudalen Dod o Hyd i Wybodaeth
Mae’r cronfeydd data isod wedi’u rhannu fel a ganlyn:
- Cronfeydd data tanysgrifiedig: bydd yr adnoddau hyn yn gofyn i chi fewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a chyfrinair GIG Cymru neu gyfrif OpenAthens GIG Cymru neu, os ydych ar un o safleoedd GIG Cymru, cewch fynediad ar unwaith trwy rwydwaith GIG Cymru.
- Cronfeydd data am ddim: mae'r rhain ar gael yn rhwydd ac nid oes angen i chi fewngofnodi
- Ystorfeydd rhad ac am ddim: mae'r rhain yn ystorfeydd sefydliadol neu bwnc sy'n hawdd eu cyrchu ac sy'n cynnwys mynediad at gynnwys testun llawn pan fo ar gael