Neidio i'r prif gynnwy

Hanfodion Cronfeydd Data

Mae cronfeydd data yn fath o adnodd sy’n trefnu gwybodaeth ac yn eich helpu i chwilio am lenyddiaeth ddigidol gyhoeddedig gan gynnwys erthyglau cyfnodolion, penodau llyfrau, trafodion cynadleddau, traethodau hir, adolygiadau systematig ac weithiau ffeiliau amlgyfrwng hefyd. Mae rhai cronfeydd data ar gael am ddim, tra bod eraill angen tanysgrifiad i gael mynediad atynt.

Mae cronfa ddata lyfryddol yn cynnwys cofnodion llyfryddol sy'n ddogfennau strwythuredig o wybodaeth am ffynhonnell. Defnyddir yr wybodaeth hon ar gyfer catalogio a chael mynediad at lenyddiaeth ddigidol gyhoeddedig a gall gynnwys, er enghraifft, manylion am yr awdur, y teitl, manylion cyhoeddi, a phenawdau pwnc.

Gall cofnodion cronfa ddata gael eu harddangos fel crynhoad neu grynodeb a gall rhai gynnwys testun llawn os yw'r ffynhonnell yn un Mynediad Agored (ar gael am ddim). Mae argaeledd erthyglau testun llawn yn dibynnu ar a yw eich llyfrgell wedi tanysgrifio iddynt. Fel arfer, bydd dolen yn y cofnod llyfryddol a fydd yn chwilio catalog eich llyfrgell am fynediad. Weithiau bydd y ddolen hon yn cael ei harddangos fel botwm o'r enw: “Check for Full-Text.”

Bydd y cofnod hefyd yn cynnwys Dynodydd Gwrthrych Digidol (DOI), a fydd yn eich tywys i'r erthygl ar wefan y cyhoeddwr. Ond, cofiwch fod mynediad at destun llawn yn dal i ddibynnu ar a yw eich llyfrgell wedi tanysgrifio. Gallwch wirio hyn drwy chwilio am deitl yr e-Gyfnodolyn ar gatalog y llyfrgell neu drwy fewngofnodi i wefan y cyhoeddwr gan ddefnyddio'r dull dilysu perthnasol (trwy ddefnyddio OpenAthens yn achos GIG Cymru). 

Mae cronfa ddata testun llawn yn gweithio yn yr un ffordd â chronfa ddata lyfryddol. Fodd bynnag, mae cyfran fawr o gofnodion yn cynnwys llenyddiaeth testun llawn yn hytrach na chysylltu â thestun llawn pan fo ar gael yn unig. Mae'r e-gyfnodolion sydd ar gael yn y gronfa ddata testun llawn hefyd i'w gweld yng nghatalog y llyfrgell.

Mae cronfa ddata ddyfyniadau yn debyg i gronfa ddata lyfryddol. Mae'r ddwy wedi'u cynllunio i gefnogi chwilio am lenyddiaeth ddigidol gyhoeddedig. Fodd bynnag, mae cronfa ddata ddyfyniadau hefyd yn eich galluogi i olrhain dyfyniadau a gwirio, er enghraifft, pa erthyglau neu gyfnodolion a ddyfynnir amlaf ac sy’n arddangos effaith.

Bydd cofnodion yn cynnwys manylion ynghylch lle y gallai'r llenyddiaeth fod wedi'i chynnwys fel cyfeiriadau mewn gwaith cyhoeddedig arall, llenyddiaeth y mae'r gwaith hefyd wedi cyfeirio ati ac yn rhoi'r opsiwn i weld hanes cyhoeddedig awdur.

Mae ystorfa yn le i storio dogfennau. Gellir chwilio ystorfeydd drwy'r metadata (tagiau) sy’n gysylltiedig â nhw. Os yw'r ddogfen yn destun llawn, efallai y bydd yr ystorfa hefyd yn gallu chwilio'r testun llawn i gefnogi allbwn canlyniadau. Mae ystorfeydd yn dueddol o fod naill ai'n sefydliadol neu'n benodol i bwnc. Ceir rhestr o ystorfeydd iechyd a gofal hysbys isod.