Cronfa ddata Ageinfo – cronfa ddata lyfryddol lle gellir chwilio am dros 59,000 o lyfrau, erthyglau ac adroddiadau o’r casgliad arbenigol ar gerontoleg gymdeithasol yn y Centre for Policy on Ageing.
Mae AMED yn cwmpasu detholiad o gyfnodolion mewn meddygaeth, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, adsefydlu, podiatreg, gofal lliniarol a phroffesiynau eraill sy’n berthynol i feddygaeth, o 1985 hyd heddiw. Mae Canllawiau i Ddefnyddwyr ar gael yma pe bai eu hangen arnoch.
(Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru.) ASSIA
(Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru) ASSIA
Nod cronfa ddata ASSIA yw diwallu anghenion gwybodaeth y proffesiynau gofal, ac mae’n cwmpasu llenyddiaeth ar iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, seicoleg, cymdeithaseg, economeg, gwleidyddiaeth, cysylltiadau hiliol ac addysg.
(Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru.) British Nursing Database
(Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru) British Nursing Database
Mae’r British Nursing Database yn cael sylw pwysig testun-llawn gan gyhoeddiadau bydwreigiaeth a nyrsio yn y DU a rhai Saesneg eraill eu hiaith, yn ogystal â theitlau rhyngwladol effaith uchel yn y meysydd hyn. Mae data llyfryddol o’r British Nursing Index (BNI) yn sail i’r cynnyrch hwn, gan ganiatáu i gannoedd o deitlau o erthyglau rheoli ac erthyglau perthynol i iechyd a meddygol perthnasol sy’n dyddio’n ôl i 1993 gael eu crynhoi a’u mynegeio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Support for this idea from social and behavioural scientists and social practitioners led to the creation of The Campbell Collaboration in 2000. The inaugural meeting in Philadelphia, USA, attracted 85 participants from 13 countries.
(Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru.) CINAHL Plus with Full Text
(Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru) CINAHL Plus with Full Text
Mae'r gronfa ddata ymchwil gynhwysfawr hon yn darparu testun llawn ar gyfer cyfnodolion nyrsio a pherthynol i iechyd wedi'u mynegeio yn CINAHL Plus. Mae deunyddiau ychwanegol yn cynnwys taflenni gofal testun llawn yn seiliedig ar dystiolaeth, gwersi cyflym a modiwlau addysg barhaus.
Ymhlith y cynnwys mae:
340 o gyfnodolion testun llawn, nad oes mynediad agored atynt
7,600,000 o gofnodion
Mynegai 5,600 o gyfnodolion
1,400 o gyfnodolion â chyfeiriadau dyfynedig y gellir eu chwilio
Cynnwys Nyrsio a Pherthynol i Iechyd o'r Ffynonellau Mwyaf Awdurdodol
Mae CINAHL Plus with Full Text yn cynnwys cyhoeddiadau gan y National League for Nursing a’r American Nurses Association. Mae llawer o'r cyfnodolion testun llawn mwyaf poblogaidd ar gael heb unrhyw embargo. Yn ogystal, mae'r adnodd hwn yn cynnig mynediad at lyfrau gofal iechyd, traethodau nyrsio, trafodion cynhadledd dethol, safonau ymarfer, adnoddau clyweledol, penodau llyfrau a mwy.
Mae CINAHL Plus with Full Text yn ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys nyrsio, biofeddygaeth, llyfrgellyddiaeth gwyddorau iechyd, meddygaeth amgen/gyflenwol, iechyd defnyddwyr ac 17 disgyblaeth perthynol i iechyd.
Mae mwy na 300 o benawdau pwnc newydd wedi'u hychwanegu at CINAHL i helpu ymchwilwyr i ddod o hyd i gysyniadau newydd, gan gynnwys COVID-19, cadw pellter cymdeithasol a defnyddio e-sigaréts yn ogystal â therminoleg leol newydd megis Canadiaid Brodorol, Cenhedloedd Cyntaf Canada, Cenhedloedd Cyntaf Awstralia, ac Ynyswyr Culfor Torres.
Nodweddion Ychwanegol:
Mae Cochrane Library yn gasgliad o chwe chronfa ddata sy’n cynnwys mathau gwahanol o dystiolaeth annibynnol o ansawdd uchel i lywio penderfyniadau gofal iechyd, ac mae’n cynnwys Cronfa Ddata Cochrane o Adolygiadau Systematig (CDSR). Mae Cochrane Library ar gael i staff y GIG, cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru. Dewch o hyd i ganllawiau ar sut i ddefnyddio’r gronfa ddata yma.
Mae nifer o amrywiadau o gronfa ddata EMBASE ac rydym wedi sicrhau bod y ddau ddarn canlynol ar gael i GIG Cymru.
Dewiswch un o’r opsiynau canlynol, yn dibynnu o ba mor bell yr hoffech chwilio am wybodaeth:
Mae Embase, a gynhyrchwyd gan Elsevier, yn ddelfrydol i unrhyw un yn y byd clinigol, corfforaethol neu academaidd – o feddygon i ddatblygwyr cyffuriau ac o wneuthurwyr dyfeisiau meddygol i fyfyrwyr meddygol – sy’n chwilio am wybodaeth ymarferol, berthnasol neu gyfredol yn ei faes. Mae gan EMBASE bron 29 miliwn o gofnodion, a chaiff dros 1.4 miliwn o gyfeirnodau a chrynodebau eu hychwanegu bob blwyddyn. Roedd yn cynnwys yr holl gyfeirnodau MEDLINE® yn dyddio’n ôl i 1947 a dônt o dros 8,500 o gyfnodolion sydd wedi’u cyhoeddi mewn 90 o wledydd. Mae EMBASE yn cwmpasu’r meysydd canlynol; ymchwil cyffuriau, ffarmacoleg, fferylleg, tocsicoleg, meddygaeth ddynol arbrofol a chlinigol, polisi a rheoli iechyd, iechyd y cyhoedd, iechyd galwedigaethol, iechyd amgylcheddol, dibyniaeth a chamddefnyddio cyffuriau, seiciatreg, meddygaeth fforensig a pheirianneg/offeryniaeth fiofeddygol. Mae sylw detholus ar gyfer nyrsio, deintyddiaeth, meddygaeth filfeddygol, seicoleg a meddygaeth amgen.
Mae Europe PMC yn storfa sy’n rhoi mynediad at erthyglau, llyfrau, patentau a chanllawiau clinigol byd-eang sy’n ymwneud â gwyddor bywyd.
Mae’r Healthcare Administration Database yn darparu gwybodaeth berthnasol a dibynadwy ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys ysbytai, yswiriant, y gyfraith, ystadegau, rheoli busnes, rheoli personél, moeseg, economeg iechyd a gweinyddiaeth iechyd cyhoeddus. Mae’n cynnwys testun llawn o gyfnodolion ysgolheigaidd allweddol a miloedd o draethodau hir a theses.
Cynhyrchir HMIC gan wasanaethau llyfrgell Adran Iechyd Lloegr a Chronfa’r Brenin. Mae cronfa ddata HMIC yn cwmpasu cyhoeddiadau swyddogol, erthyglau a llenyddiaeth lwyd yn ymwneud â rheoli iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys rheoli’r GIG, ansawdd gwasanaethau iechyd, rheoli ystadau, rheoleiddio meddyginiaethau ac offer meddygol.
Mae LISTA yn mynegeio dros 560 o gyfnodolion, bron 50 o gyfnodolion â blaenoriaeth, a bron 125 o gyfnodolion detholus yn ogystal â llyfrau, adroddiadau ymchwil a thrafodion. Mae pynciau yn cynnwys llyfrgellyddiaeth, dosbarthiad, catalogio, bibliometreg, casglu gwybodaeth ar-lein, rheoli gwybodaeth a mwy.
Mae MIDIRS: Cronfa Ddata Gofal Mamolaeth a Babanod yn casglu gwybodaeth ac adnoddau yn ymwneud â bydwreigiaeth. P’un a yw’n ymddangos mewn cyfnodolyn academaidd, mewn adroddiad gan y llywodraeth, ar wefan neu yn rhywle arall, mae MIDIRS yn catalogio’r wybodaeth ac yn creu cofnod ar eu cronfa ddata. Ar hyn o bryd, mae gan MIDIRS dros 250,000 o’r cofnodion hyn, sy’n golygu mai hi yw’r gronfa ddata fwyaf o’i math yn y byd. Gall bydwragedd a myfyrwyr bydwreigiaeth fod yn sicr y gallant ddod o hyd i beth bynnag yr ysgrifennwyd amdano, yr ymchwiliwyd iddo, yr adroddwyd amdano neu a drafodwyd, ar y MIDIRS.
Ovid MEDLINE <1946 to Current>
Ovid MEDLINE <1996 to Current>
Ovid MEDLINE <ALL>
Ovid MEDLINE and Epub ahead of Print, In-Process, In-Data Review & Other non-indexed citations and daily <1946 - Current>
Ovid MEDLINE Epub ahead of Print, In-Process, In-Data Review & Other non-indexed citations
Mae MEDLINE yn cynnwys dros 23 miliwn o gyfeirnodau o dros 5,600 o gyfnodolion ysgolheigaidd sydd wedi’u mynegeio ac a adolygwyd gan gymheiriaid, a hynny ym meysydd ymchwil biofeddygol a’r gwyddorau clinigol, gan gynnwys nyrsio, deintyddiaeth, fferylliaeth a’r gwyddorau perthynol i iechyd a chyn-glinigol.
Mae’r ystod o gronfeydd data Micromedex® yn rhoi mynediad at wybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar feddyginiaethau a thocsicoleg (oedolion a phediatrig).
Yma, gallwch fynd at y casgliad llawn o gronfeydd data Ovid (HMIC a MIDIRS). Os byddwch yn mynd at y cronfeydd data yn y modd hwn, gallwch ddewis pa adrannau o’r cronfeydd data yr hoffech bori drwyddynt, a gallwch bori drwyddynt gyda’ch gilydd. Fel arall, os hoffech bori drwy’r cronfeydd data fesul un, gallwch hefyd eu gweld wedi’u rhestru ar wahân.
Mae PEDro yn gronfa ddata sydd ar gael yn hawdd ac mae’n cynnwys dros 39,000 o dreialon ar hap, adolygiadau systematig a chanllawiau arfer clinigol mewn ffisiotherapi. Fe’i cynhyrchwyd gan y Centre for Evidence-Based Physiotherapy, Awstralia.
Mae platfform ProQuest Dialog yn caniatáu i chi groes-chwilio ein holl gronfeydd data ProQuest, sef AMED, APA PsycInfo, BNI, EMBase ac Medline.
Canllawiau fideo: Tiwtorialau i llwyfan Proquest
Gweminar:
Medline ar y ProQuest (Dialog ac Academic)
Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru. PsycINFO
Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru PsycINFO
Mae cronfa ddata PsycINFO yn cwmpasu seiciatreg, rheoli, busnes, addysg, gwyddor gymdeithasol, niwrowyddoniaeth, y gyfraith, meddygaeth a gwaith cymdeithasol sy’n dyddio’n ôl i’r 1800au cynnar hyd heddiw. Caiff y gronfa ddata ei diweddaru’n wythnosol ac mae’n cynnwys erthyglau, llyfrau, penodau a thraethodau hir.