Neidio i'r prif gynnwy

EMBASE: Excerpta Medica

EMBASE: Excerpta Medica

Mae nifer o amrywiadau o gronfa ddata EMBASE ac rydym wedi sicrhau bod y ddau ddarn canlynol ar gael i GIG Cymru.

Dewiswch un o’r opsiynau canlynol, yn dibynnu o ba mor bell yr hoffech chwilio am wybodaeth:


Mae Embase, a gynhyrchwyd gan Elsevier, yn ddelfrydol i unrhyw un yn y byd clinigol, corfforaethol neu academaidd – o feddygon i ddatblygwyr cyffuriau ac o wneuthurwyr dyfeisiau meddygol i fyfyrwyr meddygol – sy’n chwilio am wybodaeth ymarferol, berthnasol neu gyfredol yn ei faes. Mae gan EMBASE bron 29 miliwn o gofnodion, a chaiff dros 1.4 miliwn o gyfeirnodau a chrynodebau eu hychwanegu bob blwyddyn. Roedd yn cynnwys yr holl gyfeirnodau MEDLINE® yn dyddio’n ôl i 1947 a dônt o dros 8,500 o gyfnodolion sydd wedi’u cyhoeddi mewn 90 o wledydd. Mae EMBASE yn cwmpasu’r meysydd canlynol; ymchwil cyffuriau, ffarmacoleg, fferylleg, tocsicoleg, meddygaeth ddynol arbrofol a chlinigol, polisi a rheoli iechyd, iechyd y cyhoedd, iechyd galwedigaethol, iechyd amgylcheddol, dibyniaeth a chamddefnyddio cyffuriau, seiciatreg, meddygaeth fforensig a pheirianneg/offeryniaeth fiofeddygol. Mae sylw detholus ar gyfer nyrsio, deintyddiaeth, meddygaeth filfeddygol, seicoleg a meddygaeth amgen.