Wedi’u creu gan Ysbyty Maelor Wrecsam, mae Canllawiau NEWT yn adnodd ar gyfer fferyllwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy’n darparu neu’n rhoi meddyginiaethau i gleifion ag anawsterau llyncu. Mae'n cynnwys gwybodaeth am yr agweddau cyfreithiol ar newid fformwleiddiadau meddyginiaeth trwyddedig, sut i baratoi fformwleiddiadau dos solet i'w rhoi trwy diwbiau bwydo enteral, a sut i ddatrys problemau fel rhwystr yn y tiwb a rhyngweithiadau porthiant enteral.
Cliciwch ar y botwm 'Defnyddwyr Cofrestredig Cliciwch yma i fewngofnodi' a dylai mynediad fod ar unwaith pan fyddwch ar rwydwaith GIG Cymru. Fodd bynnag, os oes angen i chi nodi enw defnyddiwr a chyfrinair, anfonwch e-bost at elibrary@wales.nhs.uk i fewngofnodi.