iRefer yw’r offeryn canllawiau ymchwilio radiolegol hanfodol, gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr (RCR). Mae iRefer yn helpu meddygon teulu atgyfeirio, radiograffwyr, clinigwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i benderfynu ar yr ymchwiliad(au) delweddu neu ymyriad mwyaf priodol ar gyfer cleifion. Mae'n rhoi arweiniad ymarferol yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.
Dim ond ar y safle y gellir cael mynediad i iRefer. I gael mynediad i iRefer rhaid i weithwyr GIG Cymru a deiliaid contract ddarllen telerau ac amodau iRefer yn gyntaf. Unwaith y byddwch wedi darllen a chytuno i'r rhain, parhewch drwy glicio ar y botwm 'Rwy'n cytuno' ar y dudalen.
Unwaith y bydd y dudalen we yn llwytho, cliciwch Mewngofnodi Sefydliadol (SSO) i ddilysu.
Gwybodaeth Bellach
Diweddariadau Canllawiau Diweddaraf
Wedi'u paratoi gan RCR, mae'r diweddariadau hyn yn cynnwys canllawiau sydd wedi'u cyhoeddi i'r platfform iRefer, gan gynnwys cod, teitl y canllaw, a'r hyn sydd yn y diweddariad.
Recordiadau Gweminar
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.