Daw Adroddiadau a Chanllawiau Technoleg Iechyd Cymru mewn tri math:
- Adroddiad Archwilio Pwnc (TER) – Cyhoeddir TER unwaith y bydd y chwiliad tystiolaeth cychwynnol ar bwnc wedi'i gynnal. Cyflwynir y TER i Grŵp Asesu HTW sy'n penderfynu a ddylai'r pwnc gael ei dderbyn ar raglen waith HTW.
- Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth (EAR) – Unwaith y bydd pwnc wedi’i dderbyn ar raglen waith HTW, mae ymchwilwyr HTW yn cwblhau adolygiad cyflym o’r dystiolaeth sydd ar gael ar y pwnc, yn asesu’r dystiolaeth ac yn drafftio YAG. Caiff hyn ei adolygu gan y cyfeiriwr pwnc, arbenigwyr annibynnol a Grŵp Asesu HTW cyn ei gwblhau.
- Canllawiau (GUI) – Mae Panel Arfarnu HTW yn llunio canllawiau ynghylch a yw’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu technoleg yng Nghymru, sy’n gwerthuso’r dystiolaeth sydd ar gael yn yr YAG ochr yn ochr â mewnbwn arbenigwyr, cleifion a’r cyhoedd. Mae’r canllawiau’n crynhoi’r dystiolaeth allweddol ac unrhyw oblygiadau i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.