Polisi Iechyd
Canllaw Pwnc Polisi Iechyd
Awdur: N. Yar (Llyfrgellydd Llywodraeth Cymru)
Crëwyd yn Gyntaf: 07/09/2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 03/08/2023
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae polisi iechyd yn “diffinio nodau iechyd ar lefel leol, genedlaethol, neu ryngwladol ac yn nodi’r penderfyniadau, y cynlluniau, a’r gweithredoedd y dylid eu cwblhau i gyflawni’r nodau hynny”. Trwy fynegi nodau i’w cyflawni ym maes iechyd ynghyd â nodi sut y cant eu cyflawni, gall polisi iechyd sbarduno ystyriaeth o ba werthoedd moesegol y dylid eu hystyried wrth osod nodau iechyd, yn ogystal â mynegi gweledigaeth strategol a darparu fframwaith ar gyfer cynllunio tactegol a gweithredol.
Gellid ei ddeall fel yr hyn a wna cymdeithas i gyflawni canlyniadau dymunol ym maes gofal iechyd, ac o ganlyniad mae’r testun yn eang ac yn amlochrog, a gallai gynnwys:
Mae rhai termau chwlio defnyddiol a geiriau cyfystyrol ar gyfer agweddau ar bolisi iechyd a meysydd cysylltiedig i’w cael isod:
Nodwch mai cyflwyniad i adnoddau polisi iechyd defnyddiol yw’r canllaw hwn, ac nid yw’n hollgynhwysol. Er mwyn cynnal lefel o ffocws, mae’n canolbwyntio ar y meysydd a restrir uchod sydd â pherthnasedd eang yn hytrach na meysydd mwy penodol megis polisi iechyd cyhoeddus, gan gydnabod pwysigrwydd ystyried y cyd-destun cymdeithasol ehangach wrth ddylunio a gweithredu polisi. Yn yr un modd, mae’r canllaw yn tanlinellu ffynonellau polisïau iechyd ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol, a rhyngwladol, yn hytrach nag ar lefel leol. Yn ogystal â hyn, bydd yn edrych ar ffynonellau polisïau iechyd yn y byd datblygedig yn bennaf er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol i’r brif gynulleidfa darged.
Er bod y canllaw wedi’i ysgrifennu mewn dull llinol, mae croeso i chi ddechrau ag unrhyw un o’r penawdau isod a’r adnoddau a restrir oddi tanynt. Er enghraifft, gallai defnyddio rhai o’r cronfeydd data fod yn ffordd wych o ddechrau chwilio.
Tystiolaeth | Ystadegau | LibrarySearch | Cyfnodolion a Chronfeydd Data | Llyfrau ac e-Lyfrau
| Cyhoeddiadau a Gwefannau| Cyfryngau | Dysgu a Hyfforddiant | Cysylltiadau Allweddol | Ymwadiad
Mae seilio polisïau ar dystiolaeth a defnyddio tystiolaeth i lywio polisïau yn ddulliau sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg wrth ddatblygu polisi yn y DU dros y ddau ddegawd diwethaf, yn enwedig ym maes polisi iechyd o ganlyniad i’r croeso a roddwyd i feddygaeth sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth. Gellir adalw tystiolaeth a adolygir gan gymheiriaid ar gyfer polisi, a chyfosodiadau tystiolaeth megis adolygiadau systematig a all fod yn offer defnyddiol i asesu’n gyflym yr hyn y mae tystiolaeth yn ei ddweud wrthym am effeithiau ymyriadau, trwy gronfeydd data a chyfnodolion llyfryddol fel y rhai a restrir isod. Mae'r erthygl ganlynol yn trafod ymddangosiad polisi iechyd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gwahaniaethau allweddol o feddyginiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, beirniadaethau a rhwystrau i'w weithredu a dulliau o fynd i'r afael â'r rhain:
Yn ogystal â chronfeydd data a chyfnodolion, mae’r gwefannau canlynol yn darparu mynediad at gyfosodiadau tystiolaeth gan gynnwys adolygiadau systematig a briffiau polisi:
Mae tystiolaeth ystadegol yn rhan hanfodol o ddatblygu, o weithredu, ac o adolygu polisi iechyd, mae’n hwyluso dealltwriaeth o’r problemau iechyd y dylid mynd i’r afael â hwy yn ogystal ag effeithiolrwydd, effeithlonrwydd, ac effaith ehangach dulliau gwahanol.
Mae StatsCymru yn caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad at ddata Cymreig ar ystod o bynciau gwahanol ac i’w lawrlwytho. Mae’r ystadegau iechyd yn cynnwys setiau data ar ystadegau hanfodol, y defnydd o wasanaethau, cyllido gofal iechyd, amseroedd aros, a gweithlu’r GIG.
Mae Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru’n cynnwys data ar weithgaredd cleifion mewnol a chleifion allanol yn GIG Cymru ynghyd â data ar drigolion Cymru sy’n cael eu trin yn Ymddiriedolaethau Lloegr. Cafodd ei sefydlu yn 1991, ac ar hyn o bryd mae data o 2014/2015 ymlaen ar gael yn gyhoeddus.
Mae porth ar-lein Llywodraeth y DU ar gyfer data agored y llywodraeth yn cynnwys setiau data iechyd sy’n cwmpasu Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys data archwilio clinigol ar gyfer sawl cyflwr a gyhoeddwyd gan y Bartneriaeth Gwella Ansawdd Gofal Iechyd.
Mae adran ystadegau gwefan Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystod o adroddiadau sy’n ymwneud â data iechyd, gan gwmpasu’r defnydd o wasanaethau GIG, amseroedd aros, y gweithlu a diogelwch cleifion yn ogystal â gohebiaeth eang ar lefelau COVID-19 a’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig ag ef.
Mae’r UK Data Service yn cynnal data cyfanredol a data cynradd a gesglir gan ystod o arolygon ac astudiaethau yng ngwledydd y DU a thu hwnt, gan gynnwys Arolwg Iechyd Cymru ac Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae’n cadw data ar fynediad at a’r defnydd o ofal iechyd, gwariant ar ofal iechyd cyhoeddus, a chanfyddiadau ac agweddau tuag at iechyd a meddygaeth, yn ogystal ag iechyd cyhoeddus.
Mae NHS Digital yn cyhoeddi data iechyd a gofal cymdeithasol, am Loegr yn bennaf ond hefyd am wledydd eraill y DU. Gellir canfod setiau data sy’n ymwneud â gweithlu’r GIG, cyfraddau marwolaeth ar gyfer cyflyrau gwahanol ac archwiliadau clinigol, yn ogystal â data ar iechyd cyhoeddus.
Gyda chyllidwyr sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a phartneriaid sy’n cynnwys Iechyd a Gofal Digidol Cymru, mae Cronfa Ddata SAIL yn cynnwys llu o ddata dienw ar lefel unigolyn ar iechyd, addysg a gwasanaethau plant yng Nghymru. Mae'r data iechyd sydd ar gael yn cynnwys sgrinio, diagnosio a thrin amrywiaeth o gyflyrau, ystadegau iechyd y cyhoedd, a defnyddio, perfformiad a chanlyniadau gwasanaethau.
Mae Pwnc Iechyd Data OECD yn rhoi persbectif rhyngwladol, gan gasglu data o wledydd datblygedig yr OECD yn bennaf ond hefyd y tu hwnt. Mae'r ystadegau sydd ar gael yn cynnwys y rheini sy'n ymwneud â'r defnydd o wasanaethau, gallu'r gwasanaeth, argaeledd technoleg ddiagnostig, adnoddau ariannol a dynol, risgiau iechyd y boblogaeth a disgwyliad oes a marwolaethau.
Mae’r wefan hon yn cydgasglu mesurau meintiol ar gyfer penderfynyddion a chanlyniadau gweithredu polisi iechyd y gellid eu defnyddio mewn ystod o wahanol leoliadau. Mae gan bob mesur a restrir broffil â gwybodaeth gefndirol, y cyhoeddiadau sydd wedi’u defnyddio, a sgorau o ran ymarferoldeb wrth eu defnyddio a chriteria seicometrig. Gellir hidlo’r mesurau yn ôl anghenion y gwerthusiad. Crëwyd y wefan yn sgil adolygiad systematig a chwiliodd am fesurau o’r fath yn y llenyddiaeth a’u gwerthuso.
Bydd y dolenni canlynol yn mynd â chi i chwiliadau byw ar y pwnc hwnnw ar LibrarySearch GIG Cymru. Gallwch ganfod ystod o adnoddau, o erthyglau testun llawn, e-Gyfnodolion, Cyfnodolion, e-Lyfrau, Llyfrau, traethodau hir a mwy.
Mynediad at ofal iechyd, cydraddoldeb iechyd
Isod mae detholiad o deitlau yn ymwneud â Pholisi Iechyd a allai fod o ddiddordeb, wedi'u rhestru yn nhrefn yr wyddor. Mae’r meini prawf ar gyfer dethol y cyhoeddiadau yn cynnwys data bibliometraidd a’u perthnasedd o fewn cyd-destun y DU, gan sicrhau bod ystod o bynciau polisi iechyd yn cael eu cynrychioli.
Mae’r holl gyfnodolion ar gael trwy e-Lyfrgell GIG Cymru ac/neu maent yn deitlau â mynediad agored.
|
Applied Health Economics and Health Policy. Auckland: Springer Nature. ISSN: 1179-1996
|
|
BMJ Quality & Safety. Llundain: BMJ Publishing Group. ISSN: 2044-5423
|
|
British Journal of Healthcare Management. Llundain: Mark Allen Publishing. ISSN: 1759-7382
|
|
Cambridge Quarterly of Healthcare Ethics: CQ. Efrog Newydd: Cambridge University Press. ISSN: 1469-2147
|
|
Health Affairs. Chevy Chase, MD: Project HOPE. ISSN: 1544-5208
|
|
Health Expectations. Rhydychen: Wiley. ISSN: 1369-7625
|
|
Health Technology Assessment: HTA. Southampton: NIHR Journals Library. ISSN: 2046-4924
|
Dim llun ar gael |
Gwyddoniaeth Gweithredu: IS. Llundain: BioMed Central. ISSN: 1748-5908
|
Dim llun ar gael |
OECD Health Policy Studies. Paris: Cyhoeddiadau OECD. ISSN: 2074-319X
|
|
Value in Health. Efrog Newydd: Elsevier. ISSN: 1524-4733
|
Mae'r cronfeydd data canlynol wedi'u hamlygu i'w defnyddio gan gydweithwyr sy'n gweithio ym maes Polisi Iechyd. Os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio’r cronfeydd data hyn, gallwch ddefnyddio’r canllawiau ar-lein, cysylltu â’ch gwasanaeth llyfrgell GIG Cymru lleol neu Lywodraeth Cymru neu gysylltu â ni a gallwn eich cyfeirio at y cymorth perthnasol ar gyfer hyfforddiant a chyngor ar chwilio am lenyddiaeth.
Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn tanysgrifio i’r e-Lyfrau canlynol i gefnogi cydweithwyr sy’n gweithio ym maes Polisi Iechyd:
e-Lyfr (Mynediad Agored) |
|
e-Lyfr
|
|
e-Lyfr
|
|
e-Lyfr
|
Bydd gan eich Llyfrgell GIG Cymru agosaf lyfrau sy’n trafod agweddau gwahanol ar bolisi iechyd a meysydd perthnasol. Isod rhestrir rhai teitlau perthnasol sydd i’w cael mewn sawl llyfrgell GIG Cymru neu sydd i’w cael yn rhad ac am ddim ar y we, maent wedi’u rhestru yn ôl perthnasedd. Os nad oes copi o’r gyfrol yr ydych ei hangen yn eich llyfrgell leol, byddant yn falch o geisio cael gafael ar gopi i chi trwy fenthyg gan lyfrgell arall neu gallent ystyried prynu copi ar gyfer eu casgliad. Nodwch y bydd angen i chi ymuno â’r Gwasanaeth Llyfrgell GIG Cymru lleol er mwyn benthyg: gallwch gwblhau ffurflen gofrestru ar-lein yma.
Llyfr
|
|
Llyfr
|
|
Llyfr
|
|
.
Gwefan |
|
Gwefan |
|
Gwefan |
|
Gwefan |
|
Gwefan |
|
Gwefan |
|
Gwefan |
.
Podlediad |
|
Podlediad |
|
Podlediad |
|
Podlediad |
Conffederasiwn y GIG: Podlediad Iechyd ar y Lein
|
Podlediad |
Evidence: The importance of accessing and using the right evidence for decision making |
Podlediad |
NHS Wales e-Library for Health Special: Part 1 – Healthcare Librarians (2020)
|
Podlediad |
NHS Wales e-Library for Health Special: Part 2 – Healthcare Library Databases |
Cyfryngau |
|
Cyfryngau |
|
Cyfryngau |
Social Media:
Yma rydym wedi tynnu sylw at nifer o gyfleoedd dysgu a hyfforddi ar-lein ac wyneb yn wyneb i gefnogi cydweithwyr sy'n gweithio ym maes Polisi Iechyd. Oni nodir yn wahanol, mae’r rhain ar gael am ddim ar-lein neu drwy danysgrifiadau e-Lyfrgell:
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cyhoeddi setiau data ar iechyd a gofal yng Nghymru ar eu gwefan, ond mae eu Hadran Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu dadansoddiadau wedi’u teilwra ar gyfer Llywodraeth Cymru, GIG Cymru ac eraill.
Mae tîm llyfrgell Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr yn gallu ymateb i ymholiadau gwybodaeth am iechyd atgenhedlol a mamau, gan gynnwys cyhoeddiadau ac ystadegau.
Sefydliad proffesiynol ar gyfer arweinwyr, rheolwyr, a gweinyddwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU.
Undeb llafur ar gyfer rheolwyr iechyd a gofal.
Cymdeithas ar draws Ewrop â’r nod o adeiladu capasiti rheoli iechyd a gweithredu polisi iechyd yn llwyddiannus a gwella iechyd a gofal.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn arwain y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Gan sicrhau bod gennym y staff cywir, gyda'r sgiliau cywir, i ddarparu gofal iechyd o'r radd flaenaf i bobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Mae Gwasanaeth Llyfrgell GIG Cymru yn hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn darparu gwybodaeth iechyd o ansawdd i gefnogi gofal cleifion, addysg, datblygiad proffesiynol, hyfforddiant ac ymchwil.
Mae llyfrgelloedd ym mhob un o brif ysbytai Cymru ac maent yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar a chymwynasgar.
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn trawsnewid data a thystiolaeth yn wybodaeth iechyd y cyhoedd
Mae Gwasanaeth Llyfrgell Llywodraeth Cymru yn hwyluso mynediad at wybodaeth o fewn y Llywodraeth. Darperir y gwasanaeth i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru yn unig. Mae’r manylion cyswllt ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd i’w cael yma.
Rhaid gofalu i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Fodd bynnag, darperir cynnwys er gwybodaeth gyffredinol yn unig, a bydd ei ddefnyddio yn golygu mai chi fydd yn gyfrifol am unrhyw ganlyniadau. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled sy'n deillio o unrhyw weithred neu anwaith yn sgil defnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.
Gwefannau Allanol
Nid yw e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn gyfrifol am gynnwys neu atebolrwydd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn atebolrwydd mewn perthynas â chynnwys nac am amgylchiadau dilyn unrhyw gyngor a gynhwysir ar wefannau o’r fath.
Ni ddylid ystyried bod rhestru yn ardystiad o unrhyw fath.
Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau y mae eu dolenni wedi’u cynnwys ar y wefan, neu dros unrhyw newid i gyfeiriadau’r gwefannau.
Mae e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn cadw’r hawl i wrthod neu i gael gwared ar ddolenni i unrhyw wefan.