Dosbarthiadau Clinigol
Canllaw Pwnc Dosbarthiadau Clinigol
Awduron: D. Dawes (Iechyd a Gofal Digidol Cymru - Arweinydd y Rhaglen Hyfforddi Genedlaethol), ac R Burdon (Iechyd a Gofal Digidol Cymru - Rheolwr Safonau Dosbarthiadau)
Crëwyd yn Gyntaf: 23/07/2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 08/08/2023
Mae Dosbarthiadau Clinigol yn eistedd wrth y rhyngwyneb rhwng meddygaeth a data. Mae gan GIG Cymru adnoddau cyfoethog ac amrywiol o ddata clinigol, ond er mwyn cael mynediad atynt a'u defnyddio'n llawn, bydd angen i chi ddeall yr wybodaeth glinigol, a fformat a strwythur y data. Mae'r canllaw pwnc hwn wedi'i gynllunio i'ch cyflwyno i'r ail, a darparu adnoddau pellach ar ei gyfer.
Mae ystod eang o ddata demograffig a gweinyddol ar gael naill ai’n uniongyrchol gan GIG Cymru neu drwy gysylltu setiau data. Fodd bynnag, y codau dosbarthu sydd wrth wraidd y data clinigol a gedwir gan GIG Cymru. Grwpiau safonol o wybodaeth yw dosbarthiadau clinigol sy’n troi’r derminoleg glinigol sy’n disgrifio cyflwr a thriniaeth claf a gofnodir mewn cofnodion cleifion unigol yn godau a ellir eu rhoi mewn tabl, eu cyfuno a’u didoli ar gyfer dadansoddiad ystadegol mewn modd effeithlon ac ystyrlon. Mae dau brif ddosbarth yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn GIG Cymru
Mae ICD-10 ac OPCS-4 yn systemau o gategorïau y mae endidau yn cael eu neilltuo iddynt yn unol â meini prawf sefydledig. Eu pwrpas yw troi gwybodaeth ddiagnostig a gweithredol yn god alffaniwmerig, sy'n caniatáu storio, cyrchu a dadansoddi'r data yn hawdd. Maent wedi’u cynllunio i gyfuno cysyniadau meddygol cymhleth a’u rhoi ar ffurf sy’n addas ar gyfer dadansoddiad ystadegol ar lefel y boblogaeth. Mae dosbarthiadau eraill sy'n cael eu defnyddio yn y GIG yn cynnwys Grwpiau Adnoddau Gofal Iechyd (HRGs) sy'n cyfansymio derbyniadau cleifion i'r ysbyty i'w costio. Mae dosbarthiadau pellach yn cael eu defnyddio mewn sefydliadau eraill, gan gynnwys Enwau a Chodau Dynodwyr Arsylwi Rhesymegol (LOINC), neu Ddosbarthiadau Rhyngwladol Ymyriadau Iechyd (ICHI) a Gweithredu, Anabledd ac Iechyd (ICF) Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae ffyrdd eraill o reoli gwybodaeth glinigol yn bodoli hefyd, megis disgrifio cyffuriau unigol (gan gynnwys dm+d), anfon negeseuon rhwng systemau (gan gynnwys HL7 FHIR), a therminoleg gofal ar lefel cleifion a gofal erchwyn gwely (megis SNOMED-CT). Mae'r rhain yn wahanol i ddosbarthiadau clinigol gan eu bod yn modelu'r wybodaeth yn wahanol, sy’n eu gwneud yn llai addas ar gyfer rheoli gwybodaeth iechyd ar lefel y boblogaeth. Mae'r canllaw hwn yn canolbwyntio ar ddata ar lefel y boblogaeth, er y bydd peth o'r wybodaeth a'r adnoddau'n berthnasol ar draws parthau.
Hoffem ddiolch i Adrannau Codio Clinigol y Bwrdd Iechyd Lleol a’r Ymddiriedolaeth a Grŵp Hyrwyddwyr e-Lyfrgell GIG Cymru am eu cefnogaeth wrth lunio'r canllaw hwn. Os gwelwch fod unrhyw adnoddau ar goll neu os hoffech argymell adnodd, cysylltwch â ni.
Tystiolaeth | LibrarySearch Gig Cymru | Cyfnodolion a Chronfeydd Data | Llyfrau ac e-Lyfrau
| Cyfryngau | Dysgu a Hyfforddiant_ | Cysylltiadau Allweddol |Ymwadiad
Mae'r adnoddau a restrir isod yn darparu mynediad i'r dosbarthiadau clinigol (a'u safonau cymwys) a ddefnyddir yn GIG Cymru. Dylid nodi bod gwledydd eraill, a phob gwlad yn y DU, yn defnyddio fersiynau wedi'u haddasu o'r adnoddau hyn, yn enwedig safonau a chanllawiau.
Gwybodaeth Ragarweiniol
Cyflwyniad byr i sut mae Dosbarthiadau Clinigol yn cael eu defnyddio yn ymarferol.
Yr adran sy’n nodi’r safonau craidd ar dechnoleg a data ar gyfer systemau TG a gwasanaethau digidol yn GIG Lloegr.
Cyflwyniad i godio clinigol o safbwynt Cymru.
Adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n tynnu sylw at yr heriau a'r cyfleoedd cyfredol ar gyfer codio clinigol
Codau a Safonau Dosbarthu
Fersiwn wedi'i seilio ar borwr o'r dosbarthiadau OPCS-4.10 ac OPCS-10. Mae hwn yn cynnwys y dosbarthiad llawn o driniaethau ac ymyriadau, a’r fersiwn leol o’r dosbarthiad rhyngwladol o glefydau a ddefnyddir yn y GIG, gan gynnwys offer dilysu a ddatblygwyd gan GIG Lloegr i’w defnyddio yn y Deyrnas Unedig.
Defnyddiwch hwn pan fyddwch chi eisiau darganfod ystyr cod neu grŵp o godau triniaeth neu ddiagnosis.
Mae’r adnoddau canlynol ar gael i ddefnyddwyr ar rwydwaith GIG Cymru yn unig – naill ai’n uniongyrchol neu drwy rwydwaith preifat rhithwir.
Ystorfa o'r safonau gwybodaeth cyfredol sy'n cael eu defnyddio yn GIG Cymru i sicrhau cysondeb, uniondeb a chywirdeb data Dosbarthiadau Clinigol. Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy’n cynnal y safonau hyn.
Defnyddiwch hwn pan fyddwch chi am nodi'r rheolau dilysu ar gyfer diagnosis neu driniaeth benodol, ac a yw hyn yn wahanol yng Nghymru neu wedi newid dros amser.
Ystorfa o'r eitemau data dilys cyfredol sy'n cael eu defnyddio yn GIG Cymru, gan gynnwys y codau dilys o bob un o'r dosbarthiadau clinigol uchod. Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy’n cynnal y gronfa ddata hon.
Defnyddiwch hwn pan fyddwch am wirio a yw cod yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru neu lawrlwythwch y ffeiliau data perthnasol i'w defnyddio yn rhywle arall.
Ffynonellau Data Sylfaenol
Cofnod wedi'i ddiweddaru'n flynyddol o dderbyniadau i Ddarparwyr Ysbytai Cymru, gan gynnwys diagnosis a thriniaethau.
Detholiad o adroddiadau a gynhyrchwyd ymlaen llaw ar ystod o broblemau ac ymyriadau iechyd, gyda chysylltiadau â'r data sylfaenol.
Detholiad o ddangosfyrddau wedi'u cynllunio i ateb cwestiynau penodol ynghylch ystod o broblemau ac ymyriadau iechyd.
Bydd y dolenni canlynol yn mynd â chi i chwiliadau byw ar y pwnc dewisol ar LibrarySearch GIG Cymru. Dewch o hyd i ystod o adnoddau, o erthyglau testun llawn, e-Gyfnodolion, Cyfnodolion, e-Lyfrau, Llyfrau, traethodau hir a mwy.
Mae ystod o gyfnodolion yn cefnogi maes gwybodeg iechyd neu reoli gwybodaeth iechyd, er nad oes yr un ohonynt yn canolbwyntio ar ddata iechyd ar lefel y boblogaeth yn unig. Mae'r e-Gyfnodolion canlynol yn cynnwys gwybodaeth gadarn a chyfoes am y maes ehangach:
|
Journal of the American Medical Informatics Association : JAMIA ISSN: 1527-974X |
|
International Journal of Medical Informatics ISSN: 1872-8243 |
|
Journal of Biomedical Semantics ISSN: 2041-1480
|
|
|
Dim llun ar gael |
Methods of Information in Medicine ISSN: 0026-1270
|
Mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru yn darparu mynediad at lyfrau y gellir eu benthyca gan weithwyr GIG Cymru a deiliaid contract (ac eithrio Iechyd Cyhoeddus Cymru) yn ogystal â rhai e-Lyfrau sydd ar gael i’r defnyddwyr hynny yn y Bwrdd Iechyd neu’r Ymddiriedolaeth sydd wedi prynu/tanysgrifio iddynt. Nodwyd bod y llyfrau canlynol yn berthnasol i'r canllaw hwn ond sylwch mai dim ond i'r defnyddwyr a grybwyllwyd uchod y mae'r rhain ar gael. Os nad ydych yn berson cyflogedig neu dan gontract gan GIG Cymru ac yr hoffech gael mynediad electronig i unrhyw un o’r teitlau hyn, e-bostiwch elibrary@wales.nhs.uk a gallwn ystyried prynu.
Os ydych yn gyflogai GIG Cymru neu’n ddeiliad contract, er mwyn benthyca a chadw’r llyfrau canlynol, bydd angen i chi fod yn aelod o Wasanaeth Llyfrgell GIG Cymru. Gallwch hunan-gofrestru ar-lein ar gyfer hyn.
Cyfleoedd Dysgu a Hyfforddiant ar-lein eraill
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn casglu ac yn cynnal y data dosbarthiadau clinigol ar gyfer Cymru, gan gynnwys sicrhau ansawdd data trwy raglenni archwilio a hyfforddi ar gyfer Codyddion Clinigol yng Nghymru. Gall y tîm Dosbarthiadau Clinigol cenedlaethol hefyd eich rhoi mewn cysylltiad ag adrannau codio clinigol y bwrdd iechyd lleol.
Mae GIG Lloegr yn gyfrifol am safonau ansawdd data yn Lloegr, ac mae'n cynnal OPCS-4, ac argraffiadau'r DU o ICD-10 a SNOMED-CT.
IHRIM yw'r corff proffesiynol ar gyfer staff Dosbarthiadau Clinigol. Mae'n gyfrifol am yr arholiad Cymhwyster Codio Clinigol Cenedlaethol bob dwy flynedd, sy'n caniatáu i'r gweithiwr proffesiynol ddefnyddio'r dynodiad ôl-enwol ACC (Codiwr Clinigol Achrededig).
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn arwain y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Gan sicrhau bod gennym y staff cywir, gyda'r sgiliau cywir, i ddarparu gofal iechyd o'r radd flaenaf i bobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Mae Gwasanaeth Llyfrgell GIG Cymru yn hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn darparu gwybodaeth iechyd o ansawdd i gefnogi gofal cleifion, addysg, datblygiad proffesiynol, hyfforddiant ac ymchwil.
Mae llyfrgelloedd ym mhob un o brif ysbytai Cymru ac maent yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar a chymwynasgar.
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn trawsnewid data a thystiolaeth yn wybodaeth iechyd y cyhoedd
Mae Gwasanaeth Llyfrgell Llywodraeth Cymru yn hwyluso mynediad at wybodaeth o fewn y Llywodraeth. Darperir y gwasanaeth i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru yn unig. Mae’r manylion cyswllt ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd i’w cael yma.
Rhaid gofalu i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Fodd bynnag, darperir cynnwys er gwybodaeth gyffredinol yn unig, a bydd ei ddefnyddio yn golygu mai chi fydd yn gyfrifol am unrhyw ganlyniadau. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled sy'n deillio o unrhyw weithred neu anwaith yn sgil defnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.
Gwefannau Allanol
Nid yw e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn gyfrifol am gynnwys neu atebolrwydd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn atebolrwydd mewn perthynas â chynnwys nac am amgylchiadau dilyn unrhyw gyngor a gynhwysir ar wefannau o’r fath.
Ni ddylid ystyried bod rhestru yn ardystiad o unrhyw fath.
Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau y mae eu dolenni wedi’u cynnwys ar y wefan, neu dros unrhyw newid i gyfeiriadau’r gwefannau.
Mae e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn cadw’r hawl i wrthod neu i gael gwared ar ddolenni i unrhyw wefan.