Bydd eich argymhelliad yn cael ei anfon at dîm yr e-Lyfrgell, a fydd yn ei ychwanegu at restr argymhellion yr e-Lyfrgell.
Unwaith y caiff ei ychwanegu, bydd arweinydd caffael yn ymchwilio i weld a yw'r argymhelliad yn bodloni meini prawf y Polisi Datblygu Casgliadau.
Mae gan bob math o adnodd ei ddyraniad cyllideb ei hun hefyd, ac amserlen o bryd y bwriedir cynnal gweithgarwch caffael.
Unwaith y bydd yn barod, bydd yr Hyrwyddwyr e-Lyfrgell yn cefnogi neu ddim yn cefnogi’r argymhellion arfaethedig, cyn cael cymeradwyaeth derfynol i fwrw ymlaen â’r gweithgaredd caffael hwnnw gan y Bwrdd Gwasanaeth e-Lyfrgell.
Cewch eich hysbysu am y canlyniad. Lle nad yw'r adnodd wedi'i brynu, bydd tîm yr e-Lyfrgell yn hysbysu'r ceisydd pam.