Prif Ddefnyddwyr
Mae’r grwpiau defnyddwyr canlynol yn cael gwasanaeth uniongyrchol gan e-Lyfrgell GIG Cymru, h.y. e-adnoddau a gaffaelir yn benodol yn ôl eu hanghenion ac maent yn gymwys i gael mynediad atynt yn y gwaith (ar rwydwaith GIG Cymru) ac o gartref (drwy ddilysu o bell):
a. Yr holl staff a gyflogir gan sefydliadau GIG Cymru gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
• staff gweinyddol a chlercol, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, meddygon, gwyddonwyr iechyd, rheolwyr, bydwragedd, nyrsys, staff adrannau brys, a staff cymorth. Mae hyn yn cynnwys holl sefydliadau GIG Cymru (Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau, Awdurdodau Iechyd Arbennig a sefydliadau a letyir ganddynt) a holl gyrff a gwasanaethau statudol GIG Cymru, megis staff gofal iechyd Y Gwasanaeth Carchardai.
b. Yr holl staff a sefydliadau yng Nghymru sydd wedi’u contractio’n unigol i GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau yng Nghymru sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chleifion GIG Cymru gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
• Ymarferwyr meddygol cofrestredig sy’n gweithio mewn practisiau meddygol a deintyddol cyffredinol, fferyllwyr cymunedol, technegwyr fferyllol a staff fferyllol ac optometryddion, ymarferwyr meddygol offthalmig, ac optegwyr cyflenwi (mae gan yr olaf gontractau GIG Cymru ond bydd angen rhoi ystyriaeth arbennig i ba staff penodol fydd yn cael mynediad, e.e. mae’n bosibl y bydd optometryddion, ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr cyflenwi yn gwneud mwy o waith preifat na gwaith GIG Cymru).
• Gweithwyr proffesiynol cofrestredig a gydnabyddir gan eu corff proffesiynol a/neu gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i nyrsys y sector annibynnol sy’n darparu gofal canser, sy’n gweithio mewn Practisiau Cyffredinol.
• Gweithwyr hosbis a gyflogir gan bob hosbis yng Nghymru sy’n darparu gofal a gomisiynir gan GIG Cymru.
• Gweithwyr Cymdeithasol Cofrestredig a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol a gyflogir gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Gweithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol sydd wedi’u contractio’n unigol neu’n gweithio i sefydliad sydd wedi’i gontractio gan GIG Cymru i ddarparu gofal GIG Cymru wedi’i gyfuno i uchafswm cap o gyfanswm cyfanredol o saith mil pum cant (7,500) o ddefnyddwyr yn cyrchu’r Deunyddiau Trwyddedig.
• Rheolwyr Gofal Cymdeithasol Cofrestredig sy’n cael eu cyflogi’n breifat yn rolau Rheolwyr Cartrefi Gofal, Gofal Cartref a Gofal Preswyl i Blant wedi’u cyfuno i uchafswm cap o gyfanswm cyfanredol o ddwy fil dau gant (2,200) o ddefnyddwyr yn cyrchu’r Deunyddiau Trwyddedig.
• Gweithwyr Cymdeithasol Cofrestredig sydd yn y trydydd sector, yn annibynnol neu’n hunangyflogedig yng Nghymru i uchafswm cap o gyfanswm cyfanredol o fil (1,000) o ddefnyddwyr sy’n cyrchu’r Deunyddiau Trwyddedig.
• Busnesau annibynnol, elusennol, cymdeithasol, sefydliadau sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol sy’n darparu gofal a gomisiynwyd gan GIG Cymru neu sy’n gweithio mewn partneriaeth â GIG Cymru i ddarparu gofal i gleifion.
c. Yr holl staff a gyflogir gan, a letyir gan, neu sy’n gweithio’n uniongyrchol gydag adrannau iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
• Swyddfeydd Prif Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru
• Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru
• Staff gwasanaethau llyfrgell, gwybodaeth a dadansoddi Llywodraeth Cymru
Defnyddwyr Eilaidd
Caniateir i ddefnyddwyr lefel eilaidd gael mynediad i’r gwasanaeth, er na fydd adnoddau’n cael eu caffael yn benodol at eu defnydd unigol. Yn gyffredinol, defnyddwyr eilaidd fydd defnyddwyr o sectorau a sefydliadau eraill nad ydynt yn cael eu cyflogi gan GIG Cymru ond sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr y GIG fel rhan o’r tîm gofal iechyd ac sy’n gymwys i gael mynediad yn y gwaith ac o’r cartref lle bo hynny’n berthnasol:
a. Myfyrwyr, o un wythnos cyn dyddiad dechrau lleoliad gyda darparwr gwasanaeth GIG Cymru neu Ofal Cymdeithasol, am gyfnod eu lleoliad, gan gynnwys y rhai sydd wedi cofrestru ar gyrsiau a arweinir gan GIG Cymru, drwy gydol y cwrs
b. Gweithwyr a chontractwyr GIG Cymru sydd wedi ymddeol a all ddarparu tystiolaeth eu bod wedi gweithio i GIG Cymru trwy lythyr cadarnhau gan adran gweithlu a datblygu sefydliadol y Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth ar adeg yr ymddeoliad.
• Bydd y defnyddwyr hyn yn cael cyfrif mynediad o bell o 50 cyfrif penodol am 3 mis ar y tro i gefnogi eu dysgu parhaus, eu gwaith gwirfoddol i GIG Cymru neu sefydliadau gwirfoddol ond ni ddylid eu defnyddio ar gyfer cyflogaeth gontractiol a ariennir yn breifat neu er mwyn budd personol. Disgwylir i’r defnyddwyr hyn gadw at yr un atebolrwydd personol a phroffesiynoldeb a ddisgwylir gan y rhai sy’n dal i gael eu cyflogi gan GIG Cymru.
c. Cyflogeion, gweithwyr a chontractwyr unigol o sefydliadau sy’n derbyn cyllid neu nawdd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau neu wybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau gweithredol, rheoleiddio, cynghori a chyflenwi i GIG Cymru.
• Er enghraifft, Gofal Cymdeithasol Cymru, Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd, Corff Llais y Dinesydd, grwpiau a byrddau cynghori cysylltiedig ag iechyd, ac awdurdodau lleol.
d. Gwirfoddolwyr GIG Cymru megis y rhai sy’n aelodau o grwpiau cleifion y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth yr ystyrir y byddent yn elwa o’r gwasanaeth gan weinyddwr awdurdodedig OpenAthens.
Defnyddwyr Trydyddol
Gall defnyddwyr trydyddol fod yn aelodau o’r cyhoedd sy’n cael mynediad at e-adnoddau sydd ar gael ar y rhyngrwyd heb fynediad dan reolaeth, sydd i bob pwrpas yn gyhoeddus ac sydd ar gael felly i holl ddinasyddion Cymru. Bydd e-Lyfrgell GIG Cymru hefyd yn cynnig mynediad i unrhyw e-adnoddau sydd ar gael am ddim, megis cyfnodolion Mynediad Agored, cronfeydd data llyfryddol, adnoddau ar sail tystiolaeth a chanllawiau clinigol, trwy ei gwefan.
(Diweddarwyd ddiwethaf ym mis Mehefin 2025)