Ni yw e-Lyfrgell GIG Cymru
Yr hyn rydym yn ei wneud
Llyfrgell ddigidol genedlaethol sy'n hyrwyddo gwybodaeth ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yw e-Lyfrgell GIG Cymru.
Ein pwrpas yw caffael a darparu adnoddau digidol dibynadwy o ansawdd uchel i gefnogi ymarfer, dysgu ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
P'un a ydych chi'n chwilio am gyfeirnod cyflym o'n hadnoddau Gwybodaeth am Feddyginiaethau; yn dysgu’r diweddaraf am erthyglau, penodau a chyfnodolion; neu'n pori trwy drosolygon o offer cymorth penderfyniadau clinigol, mae ein llyfrgell o adnoddau ar-lein yn darparu mynediad 24/7 - p’un a yw o'ch clinig, ar y ward, yn y gymuned, neu'n gweithio y tu allan i oriau a gwyliau banc.
Pam rydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud.
Wrth chwilio am atebion, pwy ydych chi'n ymddiried ynddo? Beth ydych chi'n ymddiried ynddo wrth chwilio am dystiolaeth? Ble rydych chi'n mynd i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy – y wybodaeth 'gywir' .
Mewn byd sy'n llawn gwybodaeth sydd wedi dyddio ac yn aml yn gamarweiniol, weithiau mae'n anodd gwybod.
Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth ar draws Iechyd a Gofal yng Nghymru i'ch tywys ar y chwiliad hwnnw. Rydym yn darparu mynediad diogel a dibynadwy at wybodaeth a thystiolaeth i ddefnyddwyr, waeth beth fo'ch cefndir proffesiynol neu’ch lleoliad daearyddol.
Rydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud oherwydd ein bod yn hyrwyddo llythrennedd gwybodaeth. Rydym yn credu y dylai gwybodaeth 'gywir' fod ar gael i chi – ar gyfer eich gwaith ac i'r bobl rydych chi'n gofalu amdanyn nhw.
Sut rydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal a gwella ein hunain.
Dyna pam rydyn ni'n adolygu ein gwasanaethau ac e-adnoddau yn rheolaidd.
Yn ogystal â sicrhau eu bod ar gael pan fydd eu hangen arnoch, rydym yn sicrhau bod pob un yn werth chweil ac yn werth yr arian.
Rydym yn gwneud hyn mewn sawl ffordd. Un yw drwy reoli contractau a chynllunio caffael yn rheolaidd - gan siarad â'n cyflenwyr ynglŷn â pha mor alluog ydyn nhw wrth gyflwyno eu cynnyrch.
Un arall yw adolygu ystadegau defnydd pob adnodd – gan ddarganfod beth sy'n cael ei ddefnyddio a beth nad yw’n cael ei ddefnyddio – a deall pam.
Yn olaf ac yn bwysicaf oll, rydym yn gwrando arnoch chi – ein defnyddwyr. Mae eich adborth yn gwella ein gwasanaethau ac yn ein cadw ni i symud ymlaen. https://eli.gig.cymru/cael-dweud-eich/
Felly pan fyddwch chi'n gwneud yr hyn rydych chi'n ei wneud, mae gennym ni'r offer wrth law.
Yn barod i chwilio? Rydyn ni gyda chi yr holl ffordd! Gyda mynediad at ystod eang o gronfeydd data ar gael trwy danysgrifiad yn unig, mae eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair rhwydwaith GIG Cymru yn agor drysau i gronfeydd data i weddu i'ch anghenion gwybodaeth.
A beth os ydych chi'n chwilio am bynciau ar wahân i iechyd a meddygaeth? Dim problem. Rydym yn tanysgrifio i ystod eang o bynciau gan gynnwys y gweithlu a datblygu sefydliadol, arweinyddiaeth, trawsnewid digidol a mwy.
Mae gan eich Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth lleol arbenigwyr i'ch helpu gyda'ch chwiliad am lenyddiaeth. Fel atodiad ac i helpu i'ch tywys ar hyd eich taith chwilio am lenyddiaeth, mae ein cyfresi bach ar gyfer Archwilio Tystiolaeth ar gael i chwalu jargon eich “Booleans” a'ch helpu i dacluso eich Penawdau Pynciau Meddygol (MeSH). Ac yn bendant byddwch chi eisiau cadw ein Cymorth gyda Chronfeydd Data a Hanfodion Cronfeydd Data wrth law hefyd.
Mae gan yr e-Lyfrgell offer i ddatblygu eich sgiliau a'ch dysgu gyda dolenni i adnoddau clinigol ac anghlinigol sy'n cefnogi eich datblygiad proffesiynol.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyhoeddi a rhannu eich gwybodaeth ag eraill? Mae gennym dudalennau pwrpasol am gyhoeddi Mynediad Agored, cyhoeddi eich adroddiadau achos, ac offer cymorth, canllawiau a rheoli eraill ar gyfer awduron profiadol a'r rhai sydd newydd ddechrau.
Ychwanegwch ychydig o ddeallusrwydd artiffisial i wella a diogelu eich data a'ch ymchwil. Edrychwch ar ein canllawiau ar Ddeallusrwydd Artiffisial a Hawlfraint.
Os nad yw rhywbeth yn gweithio fel y disgwylir, rhowch wybod i ni! Mae'n bwysig ei adrodd rhag ofn bod mater ehangach y mae angen ymchwilio iddo. Nid oes y fath beth â chwestiwn gwirion! Anfonwch e-bost i elibrary@wales.nhs.uk a byddwn yn ymchwilio iddo ar unwaith.