Neidio i'r prif gynnwy
Bex Meyrick

Swyddog Cefnogi'r e-Lyfrgell

IGDC

elh.nhs.wales/

Ty Glan-yr Afon

rebecca.meyrick@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Swyddog Cefnogi'r e-Lyfrgell

Galwch fi’n Bex. Rwy’n arwain elfennau ymgysylltu a dysgu’r e-Lyfrgell.

Ymunais â thîm yr e-Lyfrgell yn 2018, fel swyddog cefnogi’r e-Lyfrgell, gan ddod â sgiliau a phrofiad unigryw o rolau sy’n cynnwys Cynorthwyydd Addysgu, Gwasanaeth Cwsmeriaid a gweithio mewn Eiriolaeth Cwynion. Rwy’n falch o fod wedi bod yn rhan o deulu GIG Cymru ers 2012.

Ers ymuno â’r tîm, rwyf wedi mwynhau cydweithio â thîm ymgysylltu Iechyd a Gofal Digidol Cymru i greu ein cyfres podlediadau ardderchog: Y Podlediad Iechyd Digidol, y gallwch ddod o hyd iddo yn ein Hystafell Gyffredin

Ers ymgymryd â’r ymgysylltu a’r hyfforddi yn yr e-Lyfrgell, rwyf wedi gallu moderneiddio’r ffordd rydym yn darparu gweminarau a sesiynau dysgant, drwy ddefnyddio dulliau ‘syncronaidd’ neu weminarau byw ac ‘A-syncronaidd’ fel y’u gelwir, sy’n golygu bod yr adnodd dysgu wedi’i recordio ymlaen llaw er mwyn helpu ein holl ymwelwyr y gallai fod ganddynt flaenoriaethau eraill hefyd, ac sy’n cael trafferth dod o hyd i amser rhydd ar gyfer dysgu a datblygu proffesiynol parhaus.

Gallwch ddod o hyd i lawer o’r sesiynau a recordiwyd gennym yn ein hardal Sut mae gwneud

Rwyf hefyd wedi cyflwyno ffyrdd newydd a chreadigol o gasglu adborth, o arolygon adborth arferol i straeon defnyddwyr er mwyn cael eich adborth i wella’r e-Lyfrgell ac i wella’r e-Adnoddau rydym yn tanysgrifio iddynt.

Yn aml, gallwch ddod o hyd i mi ar Microsoft Teams neu dros e-bost (elibrary@wales.nhs.uk) os oes angen cymorth arnoch i ddefnyddio’r e-Adnoddau, ac rwyf bob amser yn hapus i ddod atoch (yn rhithiol neu wyneb yn wyneb) a rhoi taith i chi o gwmpas yr e-Lyfrgell.

Ydych chi ar gyfryngau cymdeithasol? Beth am ein dilyn @NHSWaleseLib ar Twitter ac ar Facebook😊