Neidio i'r prif gynnwy
Rachel Sully

Arbenigwr Llyfrgell

IGDC

elh.nhs.wales/

Ty Glan-yr Afon

rachel.sully@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Arbenigwr Llyfrgell

Dechreuais fy ngyrfa lyfrgellyddiaeth yn amgueddfa’r Imperial War Museum lle gwnes i ddigideiddio Dyddiaduron Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf a gofalu am gasgliadau’r dyddiaduron hanesyddol. Symudais i’r sector iechyd ac i lyfrgellyddiaeth iechyd yn 2013, gan weithio i’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gyntaf mewn gwasanaethau cwsmeriaid ac yna i’r tîm datblygu casgliadau, lle bûm yn gyfrifol am reoli’r adnoddau electronig ar gyfer yr aelodaeth ac am ddatblygu gwasanaethau newydd megis caffael wedi’i yrru gan noddwyr.

Er 2017, rwyf wedi gweithio yma yn e-Lyfrgell GIG Cymru, yn gyntaf fel Llyfrgellydd Arbenigol a nawr fel Rheolwr Gwasanaethau e-Lyfrgell a Gwybodaeth. Rwy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol yr e-Lyfrgell, gan werthuso a chaffael e-adnoddau cenedlaethol, rheoli cyllidebau a chadeirio Grŵp Eiriolwyr yr e-Lyfrgell, sy’n cynnwys cynrychiolwyr sy’n ddefnyddwyr, sy’n helpu i lywio casgliad yr e-Lyfrgell ac i brynu e-adnoddau. Llwyddiant allweddol ers ymuno â’r tîm yw pan ddyfarnwyd £10 miliwn i’r gwasanaeth dros gyfnod o dair blynedd i gaffael e-adnoddau newydd i gefnogi dysgu, ymchwil a datblygu GIG Cymru. Dros y tair blynedd nesaf, rydym yn bwriadu cynyddu ein casgliadau ac ehangu ein cynnig gwasanaeth i GIG Cymru a defnyddwyr e-Lyfrgell GIG Cymru – cadwch lygad allan am ein cynllun tair blynedd, a fydd yn dod yn fuan!