Neidio i'r prif gynnwy
John Dunkley-Williams

Llyfrgell Technegol

IGDC

elh.nhs.wales/

Ty Glan Yr Afon, 21 Cowbridge Rd East

john.dunkley-williams@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Llyfrgell Technegol

Dechreuais fy ngyrfa mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, lle bûm yn gweithio am 8 mlynedd, yn gyntaf fel llyfrgellydd cynorthwyol, ac wedyn fel y llyfrgellydd hanes teuluoedd a lleol. Yn ogystal â fy ngwaith yn y llyfrgell cyfeirio ac fel hanesydd lleol; yn ysgrifennu papurau ac yn rhoi cyflwyniadau, roeddwn hefyd yn rhan o’r tîm bach a oedd yn rhedeg gwefan y gwasanaeth llyfrgell a’r cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal, gweithredais system rheoli llyfrgell Cymru gyfan mewn cydweithrediad â’r llyfrgellwyr systemau ar draws De Cymru, gan greu a rhoi hyfforddiant i staff llyfrgelloedd a oedd yn gweithio ledled y sir.

Ymgymerais â’r swydd Llyfrgellydd Technegol gydag e-Lyfrgell GIG Cymru ym mis Tachwedd 2019. Fel Llyfrgellydd Technegol, rwy’n darparu cymorth technegol i ddefnyddwyr yr e-Lyfrgell, ac rwy’n gweithio i ddatrys problemau ag e-Adnoddau a mynediad pan fyddant yn codi. Rwy’n goruchwylio’r gwaith o osod OpenAthens cenedlaethol GIG Cymru ar gyfer rheoli dilysu o bell. Rwyf hefyd yn gweithio i ddatblygu gwasanaeth yr e-Lyfrgell, drwy ddatblygu gwefan yr e-Lyfrgell, gan weithredu ac integreiddio adnoddau newydd, a sicrhau bod mynediad a phrosesau dilysu mor syml â phosibl.

Yn ystod fy amser yn gweithio fel Llyfrgellydd Technegol, ail-lansiais wefan yr e-Lyfrgell ym mis Ionawr 2020 ar blatfform mwy newydd a haws ei ddefnyddio. Roedd y platfform newydd hwn yn caniatáu ar gyfer gwefan llawer mwy gweledol, ynghyd â chynnwys fideo, a oedd yn caniatáu i ni ddatblygu’r wefan mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Ym mis Gorffennaf 2020, lansiais OpenAthens “SSO”, a oedd yn caniatáu i ddefnyddwyr fewngofnodi am fynediad at adnoddau’r e-Lyfrgell heb fod angen cofrestru â llaw ar gyfer OpenAthens, gan alluogi defnyddwyr i fewngofnodi drwy ddefnyddio’u manylion GIG Cymru yn lle, ar gyfer mynediad haws, ac i leihau nifer yr enwau defnyddwyr a’r cyfrineiriau sydd eu hangen i ddefnyddio e-Lyfrgell GIG Cymru.

Wrth i mi barhau i chwilio am ffyrdd newydd o ddatblygu systemau’r e-Lyfrgell, gan geisio sicrhau bod mynediad yn gynt ac yn haws bob amser, rwy’n parhau i weithio ar gael gwared ar ofynion mewngofnodi i gael mynediad at e-Adnoddau. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar gysylltu dilysu cyfrifon â system rheoli’r llyfrgell, sef Alma, ymhellach, er mwyn caniatáu mynediad oddi ar y safle at e-Gyfnodolion heb fod angen cerdyn llyfrgell GIG Cymru.