Gweithwyr a chontractwyr GIG Cymru sydd wedi ymddeol a all ddarparu tystiolaeth eu bod wedi gweithio i GIG Cymru trwy lythyr cadarnhau gan adran gweithlu a datblygu sefydliadol y Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth ar adeg yr ymddeoliad.
Bydd y defnyddwyr hyn yn cael cyfrif mynediad o bell o 50 cyfrif penodol am 3 mis ar y tro i gefnogi eu dysgu parhaus, eu gwaith gwirfoddol i GIG Cymru neu sefydliadau gwirfoddol ond ni ddylid eu defnyddio ar gyfer cyflogaeth gontractiol a ariennir yn breifat neu er mwyn budd personol. Disgwylir i'r defnyddwyr hyn gadw at yr un atebolrwydd personol a phroffesiynoldeb a ddisgwylir gan y rhai sy'n dal i gael eu cyflogi gan GIG Cymru.
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen isod neu e-bostiwch y wybodaeth berthnasol i elibrary@wales.nhs.uk