Neidio i'r prif gynnwy

Trwydded Hawlfraint

Beth yw Cytundeb Trwydded Hawlfraint (CLA) a pham ei fod yn bwysig?

Yn GIG Cymru, mae gennym drwydded arbennig, a elwir yn Gytundeb Trwydded Hawlfraint (CLA) Plus. Mae hyn yn golygu bod gennym un drwydded sy'n  caniatáu i holl staff GIG Cymru gopïo a rhannu'r e-adnoddau a'r deunyddiau printiedig sydd ar gael ledled Cymru.

Darllenwch y telerau ac amodau llawn yma: [Link to PDF]

Sut alla i gael rhagor o wybodaeth?

https://www.cla.co.uk/nhs-wales-licence 

https://www.cla.co.uk/sites/default/files/NHS-Wales-Copying-Guidelines.pdf

Sut alla i gael mynediad at gynnwys nad yw ar gael yn GIG Cymru?

Os oes gennych fynediad at wasanaeth Llyfrgell, Gwybodaeth neu Dystiolaeth, gallwch ofyn am gopi o adnodd drwy eu gwasanaeth benthyca rhwng llyfrgelloedd neu drwy'r gwasanaeth dosbarthu dogfennau sydd ar gael fel rhan o danysgrifiad CLA Plus a reolir gan e-Lyfrgell GIG Cymru. Cysylltwch â'ch gwasanaeth lleol yn y lle cyntaf am gymorth [Ystafell Gyfeirio], neu cysylltwch â'r tîm e-Lyfrgell elibrary@wales.nhs.uk os nad yw eich gwasanaeth llyfrgell wedi'i restru. Bydd yr e-Lyfrgell yn gallu eich cyfeirio at eich gwasanaeth mwyaf priodol.