Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi Mynediad Agored

Mae cyhoeddi eich gwaith â Mynediad Agored yn rhoi mwy o amlygrwydd iddo, oherwydd eich bod yn galluogi pawb i weld eich papur, p’un a ydynt wedi tanysgrifio i’r cyfnodolyn ai peidio. Mae dau lwybr er mwyn cyhoeddi erthygl Mynediad Agored, sef Gwyrdd ac Aur.

Mae Mynediad Agored Gwyrdd yn eich galluogi i gyhoeddi heb orfod talu ffi, ond eich bod wedyn yn cadw eich papur mewn storfa (fel arfer ar ôl cyfnod embargo byr) fel ResearchGate neu storfa sefydliadol fel yr un a gaiff ei rheoli gan y Brifysgol y gallech fod yn gysylltiedig â hi. I ddarganfod pa gyfnodolion sy’n cyhoeddi trwy Fynediad Agored Gwyrdd, chwiliwch ar Sherpa/Romeo yn ôl teitl y cyfnodolyn.

Mae Mynediad Agored Aur yn mynnu eich bod yn talu ffi, sef y tâl prosesu erthygl (APC). Yna, bydd y papur ar gael ar wefan y cyhoeddwr/cyfnodolyn. Gallwch gyhoeddi erthygl Mynediad Agored Aur naill ai mewn cyfnodolion Mynediad Agored neu gyfnodolion cymysg. Caiff cyfnodolion sydd â Mynediad Agored cyfan gwbl eu hariannu gan daliadau prosesu erthyglau, a chaiff cyfnodolion cymysg eu hariannu gan danysgrifiadau traddodiadol a thaliadau prosesu erthyglau. I ddarganfod pa gyfnodolion sy’n cefnogi Mynediad Agored Aur ac i weld faint yw’r tâl prosesu erthygl, ewch i wefan y cyhoeddwr a chwiliwch am ‘Mynediad Agored’.