Neidio i'r prif gynnwy

Cael eich cyhoeddi – awgrymiadau da gan Lyfrgelloedd GIG Cymru

Cael eich cyhoeddi – awgrymiadau da gan Lyfrgelloedd GIG Cymru 

 

Ydych chi erioed wedi ystyried cyhoeddi eich hunan? Beth mae hyn yn ei olygu? Pwy all helpu? Beth allai eich rhwystro ar hyd y ffordd?

 

Ymunwch â weminar gan grŵp hyfforddi Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru a’r tîm e-Lyfrgell i edrych yn gynhwysfawr ar y dirwedd cyhoeddi ym maes Iechyd a Gofal yng Nghymru. Bydd yr awgrymiadau da hyn yn sicr o helpu rhywun sy’n ceisio cyhoeddi ei waith ei hun.

Cael eich cyhoeddi PDF 

Rhagor o wybodaeth:  

Mae’r weminar hon yn cynnwys clipiau o Cyhoeddi Syniadau , cyfres fach newydd o gyfweliad (yn 2023) gyda John Carden, Nyrs Glinigol Arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae John yn siarad am ei brofiadau o ran cael ei gyhoeddi, cael ei wrthod, a chydweithio effeithiol a chefnogaeth gan gymheiriaid.