Neidio i'r prif gynnwy

BMJ Case Reports

Mae BMJ Case Reports yn bwriadu cyhoeddi achosion a chanddynt wersi clinigol gwerthfawr. Ystyrir bod achosion cyffredin sy’n dangos her reoli, her foesegol neu her ddiagnostig, neu achosion sy’n amlygu agweddau ar fecanweithiau anafiadau, ffarmacoleg neu histopatholeg, o werth addysgiadol penodol.  ​Gallwch ddechrau darllen ein Canllaw i Ddefnyddwyr neu daflenni gwybodaeth Sut i Ysgrifennu.

Mae tanysgrifiad GIG Cymru i BMJ Case Reports yn caniatáu i weithwyr a deiliaid contract GIG Cymru gyflwyno Adroddiad Achos i gael ei gyhoeddi yn rhad ac am ddim. Unwaith y bydd wedi’i dderbyn, bydd y cyhoeddiad ar gael i gymrodyr a thanysgrifwyr eraill.

Er mwyn cael mynediad agored at yr Adroddiad Achos fel bod modd ei weld ar-lein gan rai nad ydynt yn gymrodyr nac yn danysgrifwyr, bydd cost ychwanegol o £400.00: https://casereports.bmj.com/pages/authors/#cost Nid yw’r e-Lyfrgell yn gallu talu’r gost ychwanegol hon.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhaglen Mynediad Agored yma: http://openaccess.bmj.com/